ADOLYGIAD: Over the Sea to School
Sep. 25th, 2017 07:54 pmOver the Sea to School: Mabel Esther Allan Blackie
[This is a Welsh translation of my review of this book. The original will be posted forthwith.]
Nid oeddwn i’n deall bod y teitl yn chwarae ar y gân ‘Over the Sea to Skye’ tan i fi ddarllen y llyfr. Pedair ar ddeg mlwydd oed yw Dillian Harvie – mae’r enw cyntaf yn anghyfarwydd i mi ac yn fwy hynod nag y mae’r llyfr yn ei gydnabod -felly mae hi wedi ei hen sefydlu yn ei hysgol uwchradd, ond wedi dioddef yn wael o’r ffliw yn ddiweddar. Yn eu doethineb, mae ei rhiein’n penderfynu ei hafnon i ysgol breswyl ar ynys Skye, yn rhannol er mwyn ei hiechyd, heb drafod y mater gyda hi.
Rydych chi’n dod i gredu eu bod nhw hefyd am ei hysgwyd hi allan o’i ffyrdd pen-set a rhoi’r gwytnwch iddi fedru wynebu ac addasu i’r hyn a allai ddod i’w rhan. Mae gan yr ysgol hon, Dundonay House, ddulliau anhraddodiadol o fynd ati. Mae’r merched yn rhedeg pethau drostyn nhw eu hunain, nid oes llawer o fân reolau ac mae pob disgybl yn arwain ar lunio ei hamserlen personol, sy’n gwbwl groes i’r drefn yn ysgol uwchradd annwyl Dillian.
Mae gan y teulu gysylltiad â Skye hefyd. Gadawodd mam tad Dillian, Marsali MacKellaig, yr ynys i weithio fel morwyn yn Glasgow a phriodi Sais. Er mai Dillian Marsali MacKellaig Harvie yw ei henw llawn, mae Dillian yn ei hystyried ei hun yn Saesnes i’r carn, ac wedi i’w hewyrth ddweud bod y MacKellaigs sy’n dal i fyw ar Skye yn dyddynwyr (crofters) h.y. yn dlawd, nid oes arni unrhyw awydd i gydnabod y cysylltiad, er bod cyfnither oddeutu’r un oed â hi, ac mae’r teulu yn byw nepell o’r ysgol.
Mae’r awdures dangos yn gampus fel mae anhapusrwydd a ffordd unplyg Dillian o feddwl yn gwneud pethau’n anos fyth iddi. Yn benderfynol na fydd hi’n hoffi Skye na Dundonay, heb erioed gwestiynu a fyddai’r drefn yn ei hen ysgol yn addas ym mhob sefydliad addysgiadol, mae natur ddemocrataidd ei hysgol newydd, gwylltni y wlad a pha mor estron yw clywed pobl yn siarad Gaeleg yn peri atgasedd ynddi, nid cyffro. Ond dyna’r union bethau sydd wedi swyno’r merched eraill o Loegr sydd wedi dod i’r ysgol. Rhuthro i ffwrdd o hyn yw greddf Dillian, ac mae hi’n llythrennol yn cwympo’n bendramwnagl fwy nag unwaith o’r herwydd.
Ar yr un pryd, mae’r awdures yn ei wneud yn glir pa mor hurt yw Dillian wrth ymateb fel hyn. Mae’r merched eraill yn neis, o Emmeline a Beathag ifanc, hyderus, i’r merched sy’n rhannu ystafell wely Dillian, Catriona a Mariot (enw anarferol arall, sy’n drawiadol am fod yr awdures yn cesio gwneud pwynt am beth sy’n gyfarwydd yn Lloegr, felly byddai cael enwau fel Gillian yn lle Dillian a Harriet, er engrhaifft, yn lle Mariot wedi cael mwy o ergyd). Mae gan Mariot lond trol o ddychymyg a chydymdeimlad. Mae holl ferched yr ysgol yn plymio’n ddyfnach i faterion na Dllian, sydd wedi llyncu popeth a glywodd hyd yn hyn yn oddefol, ac eto sy’n meddwl ei bod hi’n well na phawb a phob un, yn bennaf oll, y gyfnither nad yw hi wedi ei chydnabod, Morna.
Oherwydd mae Morna, sy’n ferch o’r pentref, yn ffefryn yn yr ysgol. Mae’r brifathrawes a’r merched yn gwybod ei bod hi’n glyfar ac yn ceisio ei helpu, ond mae hi wedi cyrraedd oed lle bydd yn rhaid iddi weithio, a fwy na thebyg, gadael Skye, gan osod ei breuddwydion o addysg bellach o’r neilltu. Mae Dillian yn snob amdani, yn ogystal a bod yn gelwyddog achos ei phenderfyniad gwreiddiol i beidio â chydnabod y cysylltiad teuluol. Felly, mae’r newid yn Dillian ond yn gyflawn pan fod pethau’n cael eu hunioni rhyngddi hi a’i chyfnither.
Fodd bynnag, cefais fy nharo gan y ffaith nad yw Dillian byth wir yn dod i delerau gyda’i nain gwerinol, Albanaidd. Pe bai Morna wedi ei henwi’n Marsali (enw chwaer iau iddi sy’n llai pwysig yn y stori), byddai Dillian wedi gorfod wynebu mai’r Marsali wreiddiol yn priod rhywun o ddosbarth uwch a barodd fod gan Dillian y bywyd moethusach a’r statws a oedd hi’n meddwl mor fawr ohonynt.
Er yr oedd angen i rywbeth mawr ddigwydd fel bod Dillian yn goresgyn beth oedd Morna’n disgrifio fel ei ‘worst nature’, ac mae’r ysgol ar ynys, roedd y rhannau antur tua ddiwedd y llyfr yn teimlo’n ormod. Taniwyd gynau tra fod y merched yn ei chanol hi’n dod i sylweddoli y dylen nhw fod wedi rhannu eu hamheuon a’r rhesymau da drostynt gyda’r awdurdodau yn yr ysgol, gan brofi eu bod mor gall ag oeddynt i fod.
Ar y llaw arall, mae’r ysgol yn ddeniadol ac yn hwyl. Annogir y merched i ddatblygu fel unigolion sy’n parchu pawb, beth bynnag fo eu hoed neu eu statws cymdeithasol. Mae’n amlwg y swynodd Skye yr awdures, ac mae hi’n gwneud ei gorau glas i daenu’r un hud dros ei darllenwyr. Am dipyn o resymau, cefais f’atgoffa o’r llyfrau Chalet School cynnar sydd wedi eu lleoli yn y Tirol, ond mae’r llyfr hwn yn mynd gam ymhellach gan fod yr ysgol yn cynnig gwersi Gaeleg a gwerthfawrogi llenyddiaeth Gaeleg iddynt (mewn cyfnod pan wyf i’n cymryd roedd gan yr iaith statws isel mewn addysg yn yr Alban, ar sail yr hyn oedd yn digwydd i’r Gymraeg, sydd wedi bod mewn safle gryfach na Gaeleg dros yr ugeinfed ganrif.) Yn sicr, ni gafodd merched y Chalet School wersi Cymraeg go iawn pan oedd yr ysgol yng Nghymru, er gwaethaf y brwdfrydedd dros Ffrangeg ac Almaeneg. Roeddwn i wasted eisiau gwybod sut aeth eu hymdrechion i ynganu ‘O Deued Pob Cristion’. Yn anffodus, nid yw Dillian byth yn dangos diddordeb mewn dysgu’r iaith, felly nid ydym ni’n cael blas o un o’r gwersi hyn.
Er gwaethaf cydymdeimlad yr awdures at yr iaith, i mi roedd e’n glir nad oedd hi’n gallu llwyr gyfleu profiad siaradwyr Gaeleg. Cafwyd rhai sefyllfaoedd lle byddwn i wedi disgwyl i siaradwyr Gaeleg droi at eu mamiaith gyda’i gilydd, ond roeddynt yn glynu at y Saesneg am y byddai’r bobl a’i hysbrydolodd nhw wedi defnyddio Saesneg o flaen yr awdures – effaith y sylwedydd.
Beth bynnag, yng nghymeriad Morna, darlunnir cyfyng-gyngor ynyswyr ifanc, galluog yn fyw iawn. Heb ddigon o waith, ac yn sicr y math o waith a fyddai’n gwneud y mwyaf o’i galluoedd, roedd hi’n wynebu gadael ei chymuned, cymuned Gaeleg ei iaith, a mynd i’r ddinas Saesneg, a byddai hi’n annhebygol o ddychwelyd. Efallai y byddai’n dilyn yn ôl traed ei hen-fodryb ac esgor ar gangen o’r teulu oedd yn cyfri eu hun yn Saeson. Nodir bod sefydlu ysgol Dundonnay House yn ymgais i frwydro’n erbyn y duedd hon, drwy roi cyfle i ferched o’r Highlands, fel Catriona a Beathag, i gael eu haddysg yn yr Alban, yn hytrach na gorfod mynd yn bell iawn i ffwrdd. Llwydda’r awdures i ganfod diweddglo hapus i Morna (a Dillian) sy’n gweddu i’r genre.