feather_ghyll: Girl reading a book that is resting on her knees (Girl reader)
feather_ghyll ([personal profile] feather_ghyll) wrote2018-02-21 04:49 pm

ADOLYGIAD: Welsh Adventure

Welsh Adventure: Viola Bayley. The Children’s Book Club, 1968

[This is a Welsh review of the above book, the English translation will be posted shortly.]

Wel, rhaid oedd cael hwn i’w ddarllen! Mae’n un arall o straeon ‘junior suspense’ mewn lleoliad anarferol gan Bayley. Fel arfer, byddwn i’n defnyddio’r ansoddair egsotic yn hytrach nag anarferol, ond i fi, mae Eryri yn llai egsotig na Jersey, hyd yn oed, ac yn sicr ddim yn ‘ddiarth’. O ganlyniad roeddwn i’n darllen hwn o safbwynt gwahanol i’r un sydd gennyf pan wyf yn darllen ei straeon fel arfer, ac un sy’n wahanol i’r safbwynt fyddai gan y rhan fwyaf o’i darllenwyr, heb sôn am fod yn ei ddarllen hanner canrif wedi ei gyhoeddi ac fel oedolyn.

O ran ei hymwybyddiaeth o’r lleoliad a’r bobl sy’n byw ynddo, nid oedd yw Bayley cystal â Mabel Esther Allan sy’n dangos llawer mwy o gydymdeimlad ac ôl ymdrech i ymdreiddio i brofiad y Celtiaid yn ei llyfrau. Rwy’n ymwybodol yr oedd pethau’n dra gwahanol yn y 1960au, felly roedd y ffurfiau Saesneg o enwau lleoedd i’w disgwyl – Carnarvon yn lle Caernarfon, ond roedd Bettys-y-Coed (beetroot in the trees!?) yn wallus a Dhu am ‘Ddu’ yn fy nharo i’n od. Codwyd fy ngwrychyn hefyd gan y ffordd y disgrifiwyd mynyddoedd Eryri fel bryniau. Efallai eu bod nhw’n ymddangos felly os ydych chi’n gyfarwydd â chewri’r byd, ond eto i gyd, dangoswch beth parch. Yn waeth, ac eithrio ambell i gymeriad oedd yn defnyddio ‘look you’ doedd dim llawer o wahaniaethu rhwng y Saeson a’r Cymru, oedd yn fwyaf trawiadol gyda chymeriad Owen Rees, mab fferm disglair a gafodd ei fabwysiadu. Nid oedd yn hollol hysbys ai Cymro oedd e’n enedigol. Nid oedd e fel pe bai e’n siarad Cymraeg â’i nain, na hyd yn oed yn cyfeirio ati fel ‘nain’, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl yng nghefn gwlad Eryri. Nid eu cenedl oedd y rhwystr rhyngddo ef â gwrthrych ei serch, Serena, ond arian a gwahaniaeth dosbarth.

Fel arall, mae hwn yn stori gweddol arferol gan Bayley o ran yr antur a addawyd yn y teitl ac sy’n cael ei ddarparu rhwng y cloriau. Mae brawd bach Jeannie, David, wedi bod yn dost, felly trefnir eu bod yn mynd i dreulio eu gwyliau Pasg mewn ‘house party’ yn Craigwen House, Eryri, gyda chyfeillion. Mae ‘Aunt Georgie’ yn dipyn o gymeriad, un sydd wedi teithio’r byd yn gron ac sy’n awyddus i rannu ei chartref ag eraill a rhoi gwyliau i bobl sydd angen gwellhad neu fyddai’n gorfod hepgor gwyliau. Felly, mae casgliad go hynod o bobl yn aros dan yr un to.

Pan fo pethau rhyfedd yn dechrau digwydd, mae Jeannie yn un o’r criw o bobl ifanc sy’n ymchwilio i mewn i’r dirgelwch. Jeannie yw prif gymeriad a naratydd y stori, ac mae ei chymeriad yn cael ei gyflwyno yn fedrus. Mae hi’n dod dan ddylanwad daearyddiaeth yr ardal, yn sensitif i awyrgylch yr argae cyfagos a’r chwedlau mae Owen a Nannie yn eu hadrodd. Mae hi’n dod at ddiwedd ei gyrfa ysgol, felly mae hi ar drothwy bod yn oedolyn, yn edmygu Serena, sydd wedi gadael ysgol, ac yn gallu gweld y tyndra rhwng Owen, cyfaill bore oes Serena, a fyddai’n ychydig yn fwy nawr pe bai ei amgylchiadau teuluol yn wahanol; Serena gefnog sy’n hardd fel Olwen y Mabinogion; a Jimmy, bachan ffeind o’r un haen gymdeithasol â Serena, sydd wedi teithio o Lundain i fentro ei lwc, Mae brawd iau Jeannie, David, a’i ffrind newydd, May, yn rhan o’r criw, sy’n ddigon hapus i fynd mas wedi amser clwydo i ddilyn pobl eraill sy’n crwydro o gwmpas.

Wrth gwrs, mae pethau yn difrifoli, ac nid yw’n opsiwn i gau’r oedolion allan, gyda’r llyn hunllefus yn drobwynt i’r cyfan. Rhaid cyfaddef nad oeddwn i wedi dyfalu beth neu bwy oedd wrth wraidd y dirgelwch, ond roedd tipyn o or-draethu gan y dihiryn i esbonio’r cynllwyn tua’r diwedd. Hoffais gynildeb addas y berthynas sy’n datblygu rhwng Jeannie a Jimmy, tra fod Owen a llances y lloer yn fwy amlwg ramantus. Mae’n debyg y byddwn i wedi mwynhau’r stori’n fwy pe bai wedi ei osod mewn man mwy diarth i fi (er nad wyf i wedi dringo’r Wyddfa chwaith.)

Post a comment in response:

This account has disabled anonymous posting.
If you don't have an account you can create one now.
HTML doesn't work in the subject.
More info about formatting